Beth yw eich stori?

Ein nod yw dod o hyd i ffyrdd creadigol i bobl fynegi eu perthynas â chyflyrau genetig prin o wahanol safbwyntiau.


Rydym wedi cynnig dwy ffordd hwyliog a diddorol o adrodd eich stori.

  • Ysgrifennu - defnyddiwch ein techneg adeiladu-a-cherdd
  • Lluniadu - rhannwch eich stori drwy roi pennau neu bensiliau ar bapur

Eich straeon prin

Mae eich Straeon Prin yn weithgaredd sy'n archwilio profiadau amrywiol cael, byw, neu weithio gyda chyflyrau genetig prin.


Ein nod yw sianelu eich lleisiau a'ch straeon i'r gymuned ehangach fel y gall pobl ddysgu am gyflyrau genetig prin o'ch profiadau.


Rydym yn gwneud hyn drwy ysgrifennu straeon ar ffurf cerddi byrion, a elwir yn gerddi Cinquain. Cerddi pum llinell yw'r rhain y gellir eu defnyddio i adrodd stori am unrhyw beth yn unig, fel y byddwch gweld!


Cymerwch ran


Nid ydym bellach yn derbyn cyflwyniadau ar gyfer y prosiect.

Eich darluniau prin

Mae'r gweithgaredd hwn yn syml iawn. Mynegwch eich hunain ar bapur!


Byddwn yn rhoi pynciau i chi; mae'n rhaid i chi ddarparu'r deunyddiau.


P'un a yw ar bapur neu os hoffech greu rhywbeth ar iPad neu gyfrifiadur, hoffem weld eich dehongliad o:

  • Cyflyrau genetig prin
  • COVID-19 a'r cyfyngiadau symud

Cymerwch ran


  • Darllenwch fwy am y gweithgaredd a dysgwch sut i gyflwyno eich gwaith celf. Nid ydym bellach yn derbyn cyflwyniadau ar gyfer y prosiect.

Cysylltwch â ni

I gysylltu â'r tîm Share Your Rare, e-bostiwch creativecomplexity@cardiff.ac.uk

the logo of the MRC Centre for Neuropsychiatric Genetics and Genomics, one dark blue square reads UKRI and a lighter blue square next to it, with the dark blue text with the centre's name on the right.
logo of the wellcome trust a large W with the word wellcome underneath

Ariennir y prosiect Share Your Rare gan y Wellcome Trust.